Ein casgliad...
Mae ein casgliad o eitemau yn cynnwys cannoedd o bethau a gasglwyd gan ein gwirfoddolwyr ers blynyddoedd. Hefyd, mae nifer o eitemau wedi eu rhoi i'n gofal ni ar fenthyciad o gasgliadau preifat eraill.
Mae'r eitemau yma'n olrhain hanes a phwysigrwydd y rheilffordd yn Borth a'r ardaloedd cyfagos, lle bu'r gweithfeydd mwyn (plwm), y diwydiant amaeth, ac wrth gwrs twristiaeth yn holl bwysig.
Mae'r eitemau yma'n olrhain hanes a phwysigrwydd y rheilffordd yn Borth a'r ardaloedd cyfagos, lle bu'r gweithfeydd mwyn (plwm), y diwydiant amaeth, ac wrth gwrs twristiaeth yn holl bwysig.
Y swyddfa docynnau...
Mae'r hen swyddfa docynnau wedi ei adnewyddu'n llwyr, gan gadw cymaint a phosib o'r deunyddiau gwreiddiol yn eu lle. Mae'r twll yn y wal, y ddesg, a'r lle tan wedi eu cadw, ac mae'r ystafell wedi ei ail-greu yn y modd y buasai wedi edrych yn y 1950au. Darganfuwyd nifer o eitemau diddorol yn y desgiau a'r cypyrddau yma yn ystod y gwaith adnewyddu. Maent wedi eu clanhau a'u rhoi yn y mannau priodol i bawb gael eu gweld.
Yr ystafell aros...
Dyma lle gallwch weld ein prif attyniadau rhyngweithiol, sy'n cynnwys model o reilffordd, cwpwrdd sy'n llawn eitemau lleol, a fideo arbennig a gynhyrchwyd ar gyfer yr amgueddfa. Treuliwyd nifer o fisoedd yn paratoi'r arddangosfa yma, ac mae'n parhau i newid a datblygu fel bo eitemau newydd yn cael eu darganfod a'u benthyg i ni yma.
Swyddfa'r rheolwr...
Dyma lle cewch hyd i'n tim o wirfoddolwyr a fydd yno'n barod i ateb unrhyw gwestiwn, neu i'ch tywys o gwmpas yr amgueddfa. Cofiwch brynu swfenir o'ch ymweliad - mae pob ceiniog yn help i ni gadw a datblygu'r adnodd fach yma sydd gennym.
Mewn gwirionedd, mae rhywbeth diddorol ym mhob twll a chornel yn yr amgueddfa, felly dewch mewn - does dim gwahaniaeth os ydych yn arbennigwr rheilffordd, neu jyst yn aros am y tren nesa.
Edrychwn ymlaen i'ch croesawi yma, a gobeithio'n wir y cewch chi amser da gyda ni yn yr amgueddfa a'r ardal lleol.