Amdanom ni...
Agorwyd yr amgueddfa yn 2011, wedi cyfnod o waith caled yn datblygu'r syniad am y cynllun. Tan hynny, nid oedd ystafelloedd yr amgueddfa'n cael eu defnyddio -roeddynt wedi eu gadael i'r elfennau.
By misoedd lawer o waith caled, ymgyrchu, cael hyd i gefnogaeth ariannol ac ati, a nawr, bellach, rydym wedi llwyddo i achub yr adeilad a'i droi yn adnodd gwerth chweil. Rydym wedi ymderchi i roi syniad i ymwelwyr o sut y buasai gorsaf wedi edrych dros amryw o gyfnodau rhwng 1900 a 1960.
Mae'r attyniad eisoes wedi profi ei hun fel lle sy'n tynny sylw bob math o bobl - rhai'n arbennigwyr mewn hanes rheilffordd, eraill yn taro fewn i aros am y tren nesa' ar y platfform. Mae nifer wedi teithio o ben draw'r wlad yn unig swydd i weld yr amgueddfa, ac wedi rhoi eu sel bendith arno hefyd.
Mae gan grwp y 'Borth Station Volunteers' (BSV) ar hyn oddeutu 30 o aelodau - pobl o bob cefndir sydd wedi gweithio i achub yr hen adeilad ac i greu adnodd ddiddorol i'r dre'. Mae croeso cynnes i unrhywun ymuno a ni - naill ai yn weithgar, neu fel 'cefnogwr o bell'. Cysylltwch a ni am fwy o fanylion os oes gennych chi ddiddordeb mewn cefnogi.

Rydym yn gyson yn cael sylwadau positif iawn gan nifer o bobl sy'n ymweld a'r amgueddfa. Mor belled mae ein grwp wedi ennill 3 Gwobr Genedlaethol - am ein gwaith cymunedol, y gwaith celf a grewyd ar ein cyfer, ac am bethau amgylcheddol hefyd
Rydym hefyd wedi derbyn tystysgrif clod uchel am ein gwaith o adnewyddu'r orsaf yng Ngwobrau Treftadaeth Rheilffordd yn diweddar.
Ein nod parhaol yw i ddarparu canolfan treftadaethol bywiog a chynnal gweithgarwch mewn adeilad a oedd cynt yn adfeiliedig ac wedi ei esgeuluso, a'i gynnal a'i gadw'n adnodd addysgol a chymdeithasol.
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn yr amgueddfa, a gobeithiwn y bydd eich ymweliad yn brofiad pleserus.